Pethau i’w Gwneud

Mae Caerdydd yn Ganolfan Ddiwylliant dynodedig â lleoliadau perfformiad o'r radd flaenaf sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ymysg y theatrau a neuaddau cyngerdd amrywiol ledled y ddinas, mae’r ganolfan fyd-enwog ac eiconig, Canolfan Mileniwm Cymru sy’n gartref i Opera Cenedlaethol Cymru. Cynhelir perfformiadau o’r radd flaenaf hefyd yn Neuadd Dewi Sant – neuadd gyngerdd genedlaethol Cymru, ac yn Y Theatr Newydd mae ymwelwyr wedi mwynhau perfformiadau am y 100 mlynedd olaf.

Castell Caerdydd yw un o brif atyniadau Cymru. Wedi’i lleoli yng nghalon y brifddinas, ochr yn ochr â siopau canol y ddinas a Pharc Bute, mae tyrau tylwyth teg rhyfeddol y Castell yn cuddio ystafelloedd ysblennydd a godidog. Neuadd y Ddinas Caerdydd yw canolbwynt un o ganolfannau dinesig gorau’r byd, ardal o adeiladau trawiadol, gerddi wedi’u tirlunio a rhodfeydd eang llawn coed.

Mae Caerdydd yn ddinas rhwydd i gyfarwyddo â hi, ac mae bron popeth o fewn cyrraedd wrth gerdded. Mae Caerdydd fel un dref gyfeillgar fawr. Mae Prifddinas Cymru yn darparu ar gyfer siopwyr, y rhai sy’n hoffi celf, cerddoriaeth yn ogystal â digwyddiadau!

I ddarganfod yr holl bethau eraill sydd i'w gwneud a'u gweld yng Nghaerdydd ewch i Croeso Caerdydd

 

 

 

 

 

 

 

 

cardiff city hall