
Soufflé Mefus  Sorbe Mefus A Theisen Berffro
gan Bryn Williams o Great British Menu
Amser paratoi 30 munud i 1 awr
Amser Coginio 30 munud i 1 awr
Cynhwysion
Ar gyfer y soufflé :
500g/1lb 2oz o fefus, wedi’u masglu
150g/6oz siwgr mân, ac ychwaneg i addurno
1 pod fanila, wedi’i haneru ar ei hyd
2½ llwy fwrdd o flawd corn
menyn meddal, i seimio
4 gwynwy maes
siwgr eisin wedi’i nithio, i addurno
Ar gyfer y sorbe :
100g/4oz siwgr mân
100ml/3½fl oz o ddŵr berwedig
500g/1lb 2oz o fefus, wedi’u masglu
Ar gyfer y deisen Berffro
100g/4oz o fenyn meddal ag ychydig o halen
45g/2oz siwgr eisin, wedi’i nithio
125g/4½oz o flawd plaenr
pinsiad o halen
Dull
1. I wneud y gwaelod jam ar gyfer y soufflé, cymysgwch y mefus a 100g/4oz o’r siwgr mewn cymysgydd neu brosesydd bwyd yn biwrî. Rhwbiwch trwy ridyll mân i mewn i badell â gwaelod trwchus. Crafwch yr hadau fanila o’r pod. Berwch y cymysgedd ar dymheredd canolig, gan droi'n barhaus. Trowch y blawd corn â thua phedwar llwy fwrdd o ddŵr i lacio, yna trowch y piwrî mefus nes bydd y cymysgedd yn tewychu. Gadewch iddo oeri, a’i roi mewn oergell.
2. Brwsiwch du mewn y dysglau soufflé 9cm/3½ modfedd diamedr a 6cm/2½ modfedd dyfnder â menyn meddal, yna addurnwch â siwgr mân. Rhowch yn yr oergell.
3. I wneud y sorbe, toddwch y 100g/4oz o siwgr yn y dŵr berwedig, yna mudferwch am ddau funud i wneud syryp siwgr. Gadewch iddo oeri. Mewn cymysgedd neu brosesydd bwyd, cymysgwch y mefus â’r syryp yn biwrî, a rhwbiwch trwy ridyll mân mewn powlen. Gadewch iddo oeri, a’i roi mewn oergell. Rhowch mewn peiriant hufen iâ a throwch am 15-20 munud nes bydd yn feddal. Codwch bedwar sgwp taclus a’u rhewi ar blât. (Gellir cadw gweddill y sorbe mewn rhewgell am bythefnos.)
4. I wneud y deisen Berffro, curwch y menyn a’r siwgr eisin gyda’i gilydd, yna ychwanegwch y blawd a halen i wneud toes. Rholiwch mewn silindr tua 5-6cm/2-2½ modfedd diamedr, lapiwch mewn haenen lynu a’i oeri yn yr oergell am o leiaf dwy awr.
5. Cynheswch y popty i 200C/390F/Nwy 6. Torrwch y toes oer yn ddarnau trwchus 5mm/¼modfedd (12-14 darn) a rhowch ar silff bobi. Coginiwch am 10-12 munud nes bod yr ochrau wedi brownio. Rhowch ar rac weiar i oeri a chrasu. Gadewch y popty ymlaen. .
6. I orffen y soufflé, trowch y gwyn wyau â gweddill y 50g/2oz siwgr mân yn bigynnau meddal. Plygwch i'r gwaelod jam soufflé. Rhannwch y cymysgedd rhwng y pedwar dysgl, llenwch hwy i'r brig, a'u lefelu â chefn cyllell. Coginiwch am 9-11 munud neu nes byddant wedi codi gan hanner eu huchder uwchben yr ymyl.
7. Tynnwch o’r popty a’u haddurno â siwgr eisin. Rhowch bob soufflé ar blât mawr. Rhowch sgŵp o sorbe wedi’i rewi a darn o deisen Berffro ar yr ochr. Gweinwch ar unwaith.

