Samosas Mefus

gan Simon Rimmer o The Accidental Vegetarian

Amser paratoi 30 munud i 1 awr
Amser Coginio 10 i 30 munud

Dyma bwdin da i weini ar ôl cyri. Gallwch ddefnyddio unrhyw ffrwyth meddal ar gyfer y tu mewn – byddai mango’n effeithiol iawn hefyd. Os nad ydych eu hawydd â iogwrt, rhowch ychydig o fêl arnynt.

Cynhwysion
225g/8oz o flawd plaen, ac ychwaneg i addurno
pinsiad o halen
25g/1oz o fenyn heb halen, ac ychwaneg i frwsio
2 lwy bwrdd o laeth cynnes
olew llysiau ar gyfer ffrïo bas

Ar gyfer y tu mewn :
225g/8oz o fefus, wedi’u masglu a’u torri
½ lemwn, croen yn unig
50g/2oz o siwgr brown ysgafn meddal
pinsiad o sinamon
Ar gyfer y dresin iogwrt
175g/6oz Iogwrt Groegaidd
llawer o fint ffres wedi torri

Ar gyfer y syryp basil :
200g/7oz o siwgr mân
150ml/5fl oz o ddŵr
sblash o echdyniad fanila
llawer o ddail basil ffres

Dull
1. I wneud y crwst, nithiwch y blawd a’r halen mewn powlen, yna ‘torrwch’ y menyn iddo nes ei fod wedi cymysgu. Ychwanegwch y llaeth a’i wneud yn does, yna rhowch gaead arno a’i oeri am 20 munud.

2. Ar gyfer y cymysgedd tu mewn, rhowch y mefus mewn powlen, ychwanegwch y croen lemwn, siwgr a’r sinamon a'i droi i gymysgu.

3. Rholiwch y crwst ar arwyneb ag ychydig o flawd a thorrwch yn chwe chylch. Torrwch bob cylch yn ei hanner a rhoi ychydig o'r cymysgedd mefus mewn un cornel yna plygwch dros y gornel gyferbyn i wneud triongl tynn. Pwyswch yr ymylon i lawr i’w cau a’u brwsio ag ychydig o fenyn.

4. Cynheswch yr olew a ffrïo’r samosas yn fas nes eu bod wedi crasu a brownio ar bob ochr.

5. I wneud y dresin iogwrt, cymysgwch yr iogwrt a mint mewn powlen.

6. Ar gyfer y syryp basil, rhowch y siwgr, dŵr a fanila mewn padell a'u cynhesu nes bydd y siwgr wedi toddi. Gadewch i’r cymysgedd oeri, yna rhowch mewn prosesydd bwyd â’r basil a'i gymysgu, yna rhowch trwy ridyll mân iawn.

7. Gweinwch gwpl o samosas â llwyaid o ddresin iogwrt ac ychydig o syryp basil.

www.bbc.co.uk/food/recipes