Ryseitiau

Nid yw’n haf heb fefus! Ni fyddai unrhyw gêm Wimbledon yn gyflawn heb bowlen o fefus.

Caiff mefus eu mwynhau â siwgr neu hufen, ac maent yn gynhwysyn hanfodol mewn seigiau megis pwdin yr haf a'r Eton mess. Oherwydd eu siâp calon fe’u cysylltir â rhamant, yn enwedig os cant eu trochi mewn siocled a'u gweini â gwydraid o siampên.

Felly ewch i gasglu rhai eich hunain a rhowch gynnig ar rai o’r ryseitiau mefus hyn.