
Llefydd i Aros
P’run ai penwythnos o ymlacio’n llwyr yn un o’n gwestai moethus, neu rywle i aros tra’n gweld y ddinas a siopa, mae gennym amrywiaeth o westai, a llety Gwely a Brecwast i ddarparu ar gyfer eich anghenion. Gallwn hefyd gynnig hosteli, rhandai a thai i’w rhentu a hyd yn oed safleoedd gwersylla a charafannau yn ein dinas.
Gwesty Swyddogol Gwyl Caerdydd 2008 yw’r Holiday Inn Cardiff City Centre. Wedi ei leoli yng nghalon y ddinas yn agos at Stadiwm y Mileniwm a Chastell Caerdydd mae’n leoliad delfrydol i aros.
Mae’r Hilton Caerdydd hefyd yn Westy Bartner Swyddogol i Proms Cymru Lloyds TSB Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant.
I gael rhagor o wybodaeth ar Gaerdydd ewch i Croeso Cymru neu Croeso Caerdydd