
Mousse Siocled Gwyn A Mefus
gan Simon Rimmer o Something for the Weekend
Amser paratoi dros nos
Amser coginio llai na 10 munud
Cynhwysion
750g/1lb 10½oz o fefus
2 llwy fwrdd o sudd lemwn
225g/8oz o siocled gwyn, wedi’i gratio
7g/¼ oz o gelatin powdr
450ml/15¾fl oz hufen dwbl
30g/1oz siwgr eisin, ac ychwaneg i addurno
I weini:
biscotti
mefus ychwanegol
4 sbrig o fint ffres
Dull
1. Rhowch hanner y mefus mewn cymysgedd a’u cymysgu’n biwrî. Rhowch y mefus piwrî trwy ridyll mân mewn powlen lân.
2. Ychwanegwch y sudd lemwn i’r bowlen.
3. Torrwch y mefus sy'n weddill a'u hychwanegu i'r piwrî.
4. Rhowch bowlen gwrthwres mewn sosban wedi hanner ei llenwi â dwr berwedig. Â thymheredd isel iawn, rhowch y siocled wedi’i gratio yn y bowlen a gadewch iddo doddi.
5. Mewn powlen fechan, ychwanegwch y gelatin i tua 50ml/¾ fl oz o ddŵr a gadewch am bum munud.
6. Rhowch chwarter yr hufen ynghyd â’r siwgr eisin mewn padell a'i fudferwi nes bydd yn gynnes. Ychwanegwch y dŵr gelatin a throwch am bum munud ar dymheredd isel nes bydd wedi toddi. Mae’n bwysig peidio berwi'r cymysgedd, felly cadwch y gwres dan y badell yn isel.
7. Tywalltwch y cymysgedd hufen a gelatin yn y siocled wedi toddi a'i droi nes bydd yn esmwyth. Ychwanegwch dri chwarter y piwrî mefus.
8. Rhowch weddill yr hufen mewn powlen. Chwipiwch yr hufen yn bigynnau meddal ar ôl tynnu'r chwisg o'r bowlen. Plygwch yr hufen i’r cymysgedd siocled a mefus.
9. Trosglwyddwch y cymysgedd i wydrau gweini unigol. Rhowch yn yr oergell i oeri am o leiaf dwy awr, yn ddymunol dros nos (cadwch weddill y piwrî mefus yn yr oergell hefyd).
10. I weini, ychwanegwch lond llwy o weddill y piwrî mefus ym mhob gwydr gweini. Addurnwch ag ychydig o fefus a siwgr eisin ac ychwanegwch sbrig o fint i bob gwydr
