Carnifal MAS Caerdydd

Bellach yn ei 21ain flwyddyn mae Carnifal MAS Caerdydd unwaith eto yn dod â Chanol Dinas Caerdydd yn fyw. Mwynhewch y cannoedd o wisgoedd a chreadigaethau carnifal, masgiau a phenwisgoedd, pypedau anferthol a cherfluniau symudol llachar – oll yn dawnsio trwy strydoedd Caerdydd â chyflwyniad terfynol yn ystod Y Penwythnos Mawr ar lawnt Neuadd y Ddinas.

Enw Carnifal MAS Caerdydd 2010 yw “CELTIAID COSMIG” - dychmygwch lwythau Celtaidd y dyfodol yn y Flwyddyn 3000 ar orymdaith!

JAMIO STRYD: ymunwch â’r gorfoleddwyr ar gyfer sesiwn Jamio Stryd ar Heol Eglwys Fair isaf wrth i’r orymdaith stopio am hanner awr o berfformiadau stryd llawn egni.

PEIDIWCH Â DOD I WELD YN UNIG, CYMERWCH RAN!

Dewch i gymryd rhan mewn tair wythnos o Weithdai Celfyddydau Carnifal AM DDIM o ddydd Mawrth 13 - dydd Gwener 30 Gorffennaf (canol dydd i 9pm) yng Nghanolfan Hamdden Channel View, Grangetown - croeso i bawb, dim angen profiad, gyda thîm arbenigol o artistiaid amlddiwylliannol wrth law gydol yr amser.

swica

www.swica.co.uk
F: 029 2038 2094
E: sf@swica.force9.co.uk


CYFLEUSTERAU

toilets near or on sitefood & drink availabledisabled accessno alcoholno smokingparking nearbyno dogs except guide dogs

Cardiff International Food & Drink Festival

31 Gorff 2010

Bae Caerdydd / Y Ganolfan Ddinesig Caerdydd

Mynediad am Ddim

Ffôn: SWICA - 029 2038 2094

 

11.30am
Yr orymdaith yn gadael Plas
Roald Dahl, Bae Caerdydd
Llwybr yr Orymdaith:
Stryd Bute, Heol Eglwys Fair, Yr
Aes a Ffordd y Brenin


1.30pm
Yn diweddu yn Mhenwythnos
Mawr Caerdydd Admiral ar Lawnt
Neuadd y Ddinas

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Carnifal MASMAS