

Un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd Gŵyl Caerdydd, mae Gŵyl Fwyd a Diod Rhyngwladol Caerdydd yn nefoedd i'r rhai sy'n gwirioni ar fwyd. Ar lannau’r dŵr ym Mae Caerdydd, bydd y Basn Hirgrwn yn fwrlwm o arddangosfeydd blasus yn hybu'r bwyd a'r diod gorau o bob cwr o Gymru a gweddill y byd.
Gwahoddir ymwelwyr i ymuno â gwledd o olygfeydd, seiniau ac arogleuon, gan roi cynnig ar gynnyrch a'u prynu tra'n mwynhau cerddoriaeth ac adloniant am ddim.
Mwy yma:
Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd
Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd
I gyrraedd digwyddiadau Bae Caerdydd
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
9-11 Gorff 2010
Gwe 9 a Sad 10 Gorff
12 - 10pm
Sul 11 Gorff
12 - 7pm
Plas Roald Dahl
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5AN
Digwyddiad AM DDIM
Efallai bydd ffi ar gyfer rhai gweithgareddau
Manylion mynediad:
• Parcio i’r anabl gerllaw
• Mynediad Gwastad ledled Plas Roald Dahl
• Toiledau i’r anabl ar y safle

Dewch â’ch bag siopa (neu hyd yn oed gwell dewch â Bag Gŵyl Caerdydd) a byddwch yn barod i siopa eich ffordd o amgylch y byd. Mae’r cynnyrch Cymreig yn wych - felly cofiwch eich rhestr siopa!