Cwpan Y Byd Elvis

Pan fydd cystadleuaeth Cwpan y Byd go arbennig gyda phêl gron yn cael ei chynnal yn Ne Affrica’r haf hwn, yma yng Nghaerdydd bydd Neuadd Dewi Sant yn cynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd arbennig o fath gwahanol iawn ar 4 Gorff.

Bydd cystadleuaeth agoriadol Cwpan y Byd Elvis yn cael ei chynnal yma yng Nghymru, gwlad y gân, gyda 16 Elvis yn siglo eu ffordd i Brifddinas Cymru o bedwar ban byd gyda’u cwiffs a siwtiau secwins i ennill y wobr eithaf o gael ei goroni’n Bencampwr y Byd Elvis.

Ni fydd Neuadd Dewi Sant, sy’n llwyfan i lawer o berfformwyr a cherddorion gorau’r byd, wedi gweld y ffasiwn beth erioed o’r blaen wrth i enw pencampwr y byd ymhlith dynwaredwyr Elvis gael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Annibyniaeth America, yma ym mhrifddinas Cymru.

Mae prisiau’r tocynnau rhwng £19 - £35 ac mae tocyn VIP arbennig ar gael hefyd, lle cewch eistedd yn y seddi gorau yn y ty a chael mynd i’r parti a gynhelir ar ôl y sioe am £95.

Bydd dwy sesiwn ragbrofol yn cael eu cynnal ar lwyfan cyhoeddus am ddim ar yr Aes, amser cinio ddydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 Gorffennaf.

 

www.stdavidshallcardiff.co.uk


CYFLEUSTERAU

toilets near or on sitefood & drink availabledisabled accessno smoking

elvis world cup

4 Gorff

Neuadd Dewi Sant

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

elvis world cup

 

sdh