
Wyddoch chi . . . ?
1. Roedd y Rhufeiniaid yn tyfu mefus cyn belled nôl â 200 CC.
2. Yn y canol oesoedd ystyriwyd mefus fel affrodisiad a darparwyd cawl â mefus a tafod y fuwch a hufen sur yn draddodiadol i gyplau newydd briodi yn eu gwledd briodas.
3. Yn yr unfed bymtheg ar ddeg gwerthwyd mefus mewn basgedi gwellt siâp côn a oedd felly'n un o'r bwydydd paced cyntaf.
4. Credir y defnyddiwyd dail, gwreiddiau a ffrwythau’r mefus i dreulio'r corff neu fel tonig ar gyfer y croen. Yn fewnol, defnyddiwyd yr aeron ar gyfer y dolur rhydd a phroblemau treulio, tra defnyddiwyd y dail a'r gwreiddiau ar gyfer gowt. Yn allanol, fe’i defnyddiwyd ar gyfer llosg haul ac amhariadau ar y croen.
5. Clwb Tenis Wimbledon sydd ar y brig o ran bwyta’r nifer uchaf o fefus – caiff 27 tunnell ohonynt eu bwyta (ynghyd â mwy na 1,500 galwyn o hufen)
6. Mae tua 200 o hadau ym mhob mefusen
7. Dim ond 50 o galorïau sydd mewn 100g o fefus – 0g o fraster. Bocsiad arall unrhyw un?
8. Gall mefus helpu i wynnu eich dannedd. Mae’r asidau yn y ffrwyth yn helpu i gael gwared ar staenau.
9. Mae mefus yn llawn sylwedd arbennig a elwir asid elagig a all helpu i frwydro cancrau.
10. Maent hefyd yn llawn fflafonoidau, sy’n ffurfio rhan o liw coch y mefus. Maent yn helpu i leihau colesterol rhag llenwi rhydwelïau’r galon.
11. Mae gan wyth mefusen fwy o fitamin C nag oren, dyna 140% o'r swm a argymhellir i ni bob dydd.
12. Daw’r gair Saesneg 'strawberry' o’r hen eiriau Saesneg "streowberie" neu "streawbelige". Mae ambell theori ynglyn â sut y cawsant eu henw. Gallai'r rhan “straw” ddod o’r gwellt a ddefnyddiwyd i gadw'r mefus yn ffres, neu gall ddod o "strewed", sy'n golygu lledaenu'n eang.
13. Y gair Lladin ar gyfer y mefus adnabyddus bob dydd yw Fragaria Ananassa. Defnyddiwn fefus plaen am nawr.
14. 14. Gall mefus fod yn wyn neu’n felyn a gall rhai hyd yn oed flasu fel pinafal.
15. Mae’r planhigyn mefus ynghyd â’i gyfaill da y planhigyn mafon, yn aelodau o’r teulu rhosod.
16. Os ydych yn gwylio eich pwysau, pam na rowch ychydig o bupur du ar eich mefus yn lle'r hufen llawn calorïau arferol? Nid yw’n swnio mor flasus â hynny, ond cewch eich rhyfeddu...
17. Mefus yw’r unig ffrwyth â hadau ar y tu allan.
18. Roedd y Rhufeiniaid hynafol yn credu fod mefus yn lliniaru symptomau’r felan, llewygu, pob llid, twymynau, heintiau'r gwddf, cerrig ar yr arennau, anadl gwael, ymosodiadau gowt, a chlefydau'r gwaed, iau a phruddglwyf.
19. Fel symbol o berffeithrwydd a chyfiawnder, roedd seiri maen cerrig yn y canol oesoedd yn cerfio lluniau mefus ar allorau ac o amgylch pennau pileri mewn eglwysi ac eglwysi cadeiriol.
20. Mewn rhannau o Bavaria, mae’r bobl o'r wlad yn parhau i ymarfer y ddefod flynyddol pob gwanwyn o glymu basgedi bychain o fefus gwyllt i gyrn eu gwartheg fel offrwm i gorachod. Maent yn credu y bydd y corachod, sy’n hoff iawn o fefus, yn helpu i greu lloi iachus a digonedd o laeth.
21. Roedd Madame Tallien, ffigwr pwysig yn llys yr Ymerawdwr Napoleon, yn enwog am ymolchi mewn sudd mefus ffres. Defnyddiai 22 pwys y basn. Nid oes rhaid dweud, nid oedd yn ymolchi'n ddyddiol
22. Mefus yw’r ffrwyth cyntaf i aeddfedu yn y gwanwyn.
23. Mae amgueddfa yn y wlad Belg ar gyfer mefus yn unig.
24. Yn y canol oesoedd, darparwyd mefus mewn achlysuron pwysig i ddod â heddwch a ffyniant.
25. Yn ôl llên gwerin pe baech yn rhannu mefusen ddwbl yn ei hanner a'i rhannu â rhywun o’r rhyw arall, mi fyddwch yn cwympo mewn cariad.

