

ar y cyd â
Neuadd Dewi Sant
Bydd Gŵyl Gomedi Caerdydd eleni yn dod yn uniongyrchol o Neuadd Dewi Sant gyda llu o’r comediwyr gorau, gan wneud yr Ŵyl Gomedi’r haf hwn yn un chwilboeth.
Bydd y digwyddiad 10 diwrnod yn cynnwys y gystadleuaeth Gwobr Stand-yp Cymreig i Artist Heb ei Arwyddo gyntaf erioed a noddir gan Route One, gyda gwobr enfawr o £1 mil i’r enillydd. Bydd mwy o artistiaid sydd wedi hen sefydlu yn ymddangos hefyd, fel Russell Kane a fydd yn llywyddu rownd derfynol y gystadleuaeth Ddydd Llun 19 Gorffennaf.
Yn ogystal â'r perfformiadau byw, bydd Llyfrgell Caerdydd yn cynnal Gweithdai Comedi i bobl ifanc 15 - 19 oed a bydd yr enillydd yn cael perfformio ochr yn ochr â Rod Gilbert yn Sioe Uchafbwynt Gŵyl Gomedi Caerdydd a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant ar 26 Gorffennaf.
Bydd Gŵyl Gomedi Caerdydd ar y Cyd â Neuadd Dewi Sant hefyd yn cyhoeddi lansio cyfres newydd sbon o berfformiadau gan artistiaid comedi lleol yn Lolfa L3 yn yr Hydref. Rhagor cyn hir.....
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Gomedi Caerdydd ac i archebu tocynnau ewch i www.stadavidshallcardiff.gov.uk
neu ffoniwch 029 2087 8444.
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
16-26 Gorff
Neuadd Dewi Sant
