
Diwrnod Y Lluoedd Arfog
Eleni mae Caerdydd yn falch o fod yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog. Gyda’r gwrthdaro sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, mae ein lluoedd yn cael mwy sylw byd-eang nag erioed o’r blaen. Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn caniatáu i ni, fel cenedl, anrhydeddu gorffennol, presennol a dyfodol y dynion a’r merched dewr sy’n gwasanaethu ein gwlad.
Bydd Uwch Swyddogion Milwrol a Phwysigion Dinesig a Masnachol yn mynychu’r digwyddiad a bydd yn cael ei lansio drwy godi’r faner yng Nghastell Caerdydd ddydd Llun 21 Mehefin. Dilynir hyn gan wythnos o ddigwyddiadau a fydd yn arwain at y prif ddigwyddiad ddydd Sadwrn 26 Mehefin 2010. Bydd y diwrnod yn dechrau gyda gorymdaith drwy Ganol y Ddinas i Fae Caerdydd lle cynhelir gwasanaeth Drumhead ac arddangosiadau llonydd a symudol gan y Fyddin, y Llynges a’r Llu Awyr.
26 Mehefin 2010
Castell Caerdydd / Bae Caerdydd
